Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Wythnos Plannu Coed yn Eryri
Mae'r rhifyn yma o Bodlediad Eryri yn dilyn Swyddog Coed y Parc, Rhydian Roberts wrth iddo ddathlu wythnos plannu coed.
Fel rhan o’r dathliadau i nodi pen-blwydd Parc Cenedlaethol Eryri yn 70 eleni bu ein Swyddogion Coedwigaeth yn gweithio ar brosiect arbennig - sef plannu 5,000 o goed ar hyd a lled y Parc Cenedlaethol – un ar gyfer pob genedigaeth a dathliad pen-blwydd 70 oed yn Eryri yn ystod y flwyddyn.
(A Welsh version of the Eryri podcast following our Tree Officer, Rhydian Roberts during National Tree Week.)