Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Ffermio Bro: Astudiaethau achos
Use Left/Right to seek, Home/End to jump to start or end. Hold shift to jump forward or backward.
Yn y bennod hon, mae Dion Roberts, Swyddog Amaeth ac Adnoddau Naturiol sy’n arwain ar brosiect Ffermio Bro yn Eryri, Llŷn a Môn, yn ymweld â dwy fferm yn ardal Dyffryn Conwy sydd wedi elwa o fod yn rhan o’r prosiect.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2028. Mae’n cefnogi prosiectau ffermio ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol Cymru (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol), gan ganolbwyntio ar wella natur a’r amgylchedd.
Caiff y rhaglen ei chyflwyno ar y cyd gan ffermwyr a chyrff sy’n gyfrifol am y tirweddau dynodedig.
Am fwy o wybodaeth am Ffermio Bro, ewch draw i’n gwefan.
https://eryri.llyw.cymru/gwarchod/gwaith-cadwraeth/ffermio-bro/