Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Ffermio yn Eryri: Ymweld â ffermydd yr ardal
Use Left/Right to seek, Home/End to jump to start or end. Hold shift to jump forward or backward.
Dyma gyflwyno’r 5ed Cyfres o Bodlediad Eryri!
Mae’r rhifyn hwn ar y cyd â’r Undeb Amaethwyr Cymru, sy’n canolbwyntio ar amaethyddiaeth yn Eryri – sector sydd wrth wraidd hanes, diwylliant a thirwedd y Parc.
Mae amaethyddiaeth wedi siapio Eryri dros ganrifoedd, ac yn y bennod hon rydym yn ymweld â thair fferm i glywed straeon gan y bobl sy’n byw ac yn gweithio ar y tir bob dydd.
Mae Rhys Owen, Pennaeth Coed ac Amaeth y Parc, yn ymweld â Teleri a Ned yn Hafod y Llyn Isaf i drafod eu dulliau ffermio cynaliadwy a’u cysylltiad â’r dirwedd unigryw.
Yna, mae Gwynedd Watkin o Undeb Amaethwyr Cymru yn teithio i Nant Gwynant i fferm Castell, i sgwrsio gydag Elgan am yr heriau, y Côd Cefn Gwlad a’r manteision o ffermio yn yr ardal.
Yn olaf, rydym yn ymweld â fferm deuluol Foel Ddu, lle mae Gwilym, Ioan, ac Elain yn rhannu eu profiadau o ffermio fel teulu a pharhau’r traddodiad o ffermio dros cenedlaethau.
Ymunwch â ni am sgwrs ddifyr ac onest am fywyd ar y fferm yn Eryri heddiw – y balchder, y pwysau a’r angerdd sy’n cadw amaethyddiaeth yn fyw yng nghalon y Parc.
Cerddoriaeth
Music by Bensound.com
License code: 4RPWPM4N80ZUX7LK
Artist: Aventure