Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Effaith cyfryngau cymdeithasol ar dwristiaeth yn Eryri
Yn y bennod hon, rydym yn trafod sut mae cyfryngau cymdeithasol yn dylanwadu ar dwristiaeth yn Eryri — y da a’r drwg.
Mae’r sgwrs rhwng Sara Williams, ein Swyddog Cynnwys Digidol, Sian Powell, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Alaw, a Catrin Elis, Golgydd Cynnwys Croeso Cymru / Visit Wales.
Byddwn yn edrych ar enghreifftiau o’r effaith gadarnhaol a’r heriau sy’n codi o’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag arferion da i fusnesau lleol sy’n dymuno defnyddio’r cyfryngau hyn yn gyfrifol ac yn effeithiol.
(In this episode, we discuss the impact of social media on tourism in Eryri - the positives, the challenges, and good practice for local businesses online.)