.jpg)
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Pam mae enwau lleoedd mor bwysig yn Eryri?
Pam mae enwau lleoedd mor bwysig yn Eryri?
Hanes gweithdy ar y cyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg a’r Llyfrgell Genedlaethol, i’n Wardeiniaid ym Mhlas Tan y Bwlch i gofnodi a dathlu enwau lleoedd yn Eryri.
🎙️ O hynny daeth pennod newydd o Bodlediad Eryri, a chawsom y cyfle i sgwrsio gyda:
- Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Tir APCE
- Dr Eleri James, Comisiynydd y Gymraeg
- Rhys Gwynn, Warden Cader Idris
- Jason Evans, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Lle bynnag yr awn ni yn y byd, mae enwau lleoedd yn portreadu cymeriad cymunedau ac yn rhoi ystyr i’r tir a’i nodweddion. Maent yn ein hatgoffa o’n lle yn y byd – yn ddaearyddol ac yn ddiwylliannol – ac yn Eryri, maent yn rhan o’r hyn sy’n gwneud y Parc Cenedlaethol mor arbennig.
Gwrandewch!
[This episode was recorded during a summer workshop on Eryri’s place names with the National Park Wardens, Comisiynydd y Gymraeg, and The National Library of Wales.]