.jpg)
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Ein Tirwedd, Ein Dyfodol (gyda Helen Pye o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
Ymunwch ag Angela Jones o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Helen Pye o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth iddynt drafod y strategaethau cyffrous sy’n cael eu lansio eleni i lunio dyfodol ein tirluniau gwerthfawr.
Mae’r bennod hon yn Gymraeg, ac yn gyfle i ni ddysgu mwy am y cydweithio rhwng sefydliadau fel Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Byddant hefyd yn pwysleisio pam ei bod yn hanfodol i chi leisio’ch barn ar gyfer sicrhau bod dyfodol Eryri a thu hwnt yn adlewyrchu anghenion pobl a natur fel ei gilydd.
Mi fydd pennod mis Chwefror yn Saesneg: "Eryri by night, the magic of Dark Skies".
***
Join Angela Jones from Eryri National Park Authority and Helen Pye from the National Trust as they discuss the exciting new strategies launching this year to shape the future of our treasured landscapes.
This episode is in Welsh, exploring how collaboration between organisations like the National Park Authority and the National Trust is vital in tackling the challenges our landscapes face.
They’ll also highlight why it’s crucial for you to have your say in upcoming consultations—to ensure that the future of Eryri and beyond reflects the needs of both people and nature.
Coming up next in February will be an English episode: "Eryri by Night – The Magic of Dark Skies".