Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority (Snowdonia); to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Yr Wyddfa - Hero Douglas (Cymraeg)
•
APCE / SNPA
Croeso i fyd hudolus Eryri ble mae Hero Douglas yn dod a'r Wyddfa'n fyw trwy gân.
Ymunwch ag ymgyrch Yr Wyddfa Ddi-blastig er mwyn gwarchod ein tirweddau anhygoel ar gyfer cenhedlaethau'r dyfodol.
Fel rhan o brosiect Yr Wyddfa Ddi-Blastig, mae'r gân yma yn fwy na dim ond cerddoriaeth - mae'n alwad i'r gâd. Rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan o'r symudiad i warchod harddwch naturiol Yr Wyddfa ac Eryri trwy leihau defnydd o blastigion untro a hyrwyddo ymarferion cynaladwy.
Peidiwch a cholli'r cyfle i wneud gwahaniaeth - ymgollwch yn hud a lledrith Yr Wyddfa trwy felodiau Hero a gwnewch adduned i gynorthwyo dyfodol di-blastig ym Mharc Cenedlaethol Eryri.