.jpg)
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Sianel podlediad sy'n trafod materion yn ymwneud a phrif nodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri; gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal; hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau ei nodweddion arbennig; a meithrin lles economaidd a chymdeithasol ei chymunedau. • • • A podcast which discusses topics relating to the aims of the Eryri National Park Authority; to conserve and enhance the natural beauty, wildlife and cultural heritage of the area, promote opportunities to understand and enjoy its special qualities; and to foster the economic and social well-being of its communities.
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
70 mlynedd o Barc Cenedlaethol Eryri
Mae 2021 yn flwyddyn arbennig iawn i ni yma yn Eryri gan ein bod yn dathlu 70 mlynedd ers dynodiad Eryri yn Barc Cenedlaethol.
Ar Hydref y 18fed, bu'r ardal arbennig hon yn dathlu 70 mlynedd ers ei dynodi’n Barc Cenedlaethol, ac er mwyn nodi’r achlysur arbennig paratowyd rhaglen o ddigwyddiadau amrywiol.
Yn y rhifyn hwn o'r podlediad, Ioan Gwilym sy'n sgwrsio gyda Shari Llewelyn, Gwen Aeron a Catrin Glyn ac yn edrych nôl ar y digwyddiadau hyn yn ogystal a chwarae clipiau o weithiau celfyddydol a gomisiynwyd.
(A Welsh language podcast looking back on the 70th anniversary celebrations, an English language episode with Peter Rutherford and members of 3 other UK National Parks celebrating 70 years since designation will be broadcast in early November.)