Podlediad Eryri / Eryri Podcast

Yr Wyddfa

September 01, 2021 APCE / SNPA Season 1 Episode 16
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Yr Wyddfa
Show Notes
Mae’r Wyddfa yn fynydd eiconig sy’n adnabyddus dros y byd i gyd. Mae’n gartref i gymuned fywiog, egnïol, ac i fusnesau a mannau gwaith arloesol yn ogystal â chlytwaith o ffermydd mynydd. Mae'n ased cenedlaethol a hwn yw mynydd mwyaf poblogaidd y Deyrnas Unedig o ran ymwelwyr. Mae'n denu pobl o bob cwr o Gymru, y DU, ac o bob rhan o'r byd.

Yn y rhifyn yma o Bodlediad Eryri, Catrin Glyn Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa sy'n holi a stilio gyda'r hanesydd Elin Tomos, un o Wardeiniaid Gwirfoddol Yr Wyddfa Elen Huws a threfnydd Ras Yr Wyddfa, Stephen Edwards.

(A Welsh episode on the subject of Yr Wyddfa / Snowdon).