Sesiwn 4: Cysylltu a'r synhwyrau: Gweld
Mae'r sesiwn hon yn eich gwahodd i dalu sylw yn ofalgar i'r hyn a welir. Yn aml, rydym yn tueddu i dan-ddefnyddio neu or-ddefnyddio synhwyrau penodol, felly gall treulio peth amser yn cysylltu ag un penodol mewn modd bwriadol ein helpu ni i ymarfer dewis lle rydyn ni'n rhoi ein sylw. Er enghraifft, cymryd persbectif ehangach os ydym yn cael ein cloi i mewn i lif meddwl annefnyddiol.
Gallwch wneud hyn trwy wrando ar y podlediad neu trwy ddilyn y canllawiau byr yn y gwahoddiad isod. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar y recordiad yn gyntaf ac yna ei dria y tu allan.
Y tro yma, mae'r synau natur ar ddechrau a diwedd y recordiad yn gan adar o goetir bedw ifanc ar lethrau isaf Llefn a Gyrn.
Gwahoddiad 4: Sylwi ar yr hyn a welir
Chwalu myth meddylgarwch: Mae'n rhaid i chi eistedd yn llonydd iawn i ymarfer meddylgarwch
Gall fod yn dda ymarfer meddylgarwch yn eistedd, yn ogystal 4 dod ag ymwybyddiaeth i beth bynnag a wnawn, p'un a yw'n sylwi ar naws Gl ein troed, manylion yr hyn y gallwn ei weld neu swn y gwynt wrth gerdded.
Yn y sesiwn nesaf bydd y synau'n dod o ran wahanol or Carneddau ac ymerfer pellachi archwilio'r synhwyrau.