Podlediad Eryri / Eryri Podcast

Cydlyniant Cymunedol - Llanuwchllyn

May 30, 2022 APCE / SNPA Season 2 Episode 5
Podlediad Eryri / Eryri Podcast
Cydlyniant Cymunedol - Llanuwchllyn
Show Notes

Catrin Glyn sy'n cyflwyno rhifyn mis Mai o Bodlediad Eryri ac yn edrych ar un o rinweddau arbennig Eryri sef Cydlyniant Cymunedol.

Mae Llanuwchllyn yn un o bentrefi bywiog Eryri ac yn frith o bobl ifanc talentog ac ymdeimlad go iawn o gymuned Gymreig yno.

Yn y rhifyn mae Catrin yn trafod y gymuned gyda Prys Jones, Marged Gwenllian ac Angeline Chenu yn ogystal a tharo heibio i un o sesiynau ymarfer Eryrod Meirion.

(A Welsh episode of the Eryri podcast, next month's podcast will be in English and will focus on Health & Wellbeing).